Rydym yn stiwdio greadigol wobrwyedig.
Rydym wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y DU yn datblygu brandiau effeithiol ar gyfer cwmnïau, sefydliadau, datblygwyr eiddo a chymunedau.
Rydym yn arbenigwyr brandio amlieithog sy’n helpu i symleiddio’r cymhleth, a chreu hunaniaethau y gall cymunedau a chwsmeriaid fod yn falch ohonynt.
Gyda phrofiad helaeth o weithio gyda chleientiaid a rhanddeiliaid, mae ein prosesau yn helpu i sicrhau y bydd eich prosiect yn sefyll allan am y rhesymau cywir.
Beth ni’n neud
HUNANIAETH
Hunaniaeth brand pwrpasol
Trwy ein ymchwil, ein gweithdai trylwyr a’n sylw craff ar fanylion - rydym yn gweithio gyda chi i greu hunaniaeth brand pwrpasol sy’n dod â’ch prosiect yn fyw.
ENWI
Enwi cofiadwy
Gan weithio gyda chleientiaid, rhanddeiliaid a chymunedau - bydd ein proses yn eich helpu i ddatblygu enw cofiadwy ac addas sy’n anrhydeddu eich gorffennol, yn cyfleu eich pwrpas neu’n siapio’ch dyfodol.
Arbenigeddau:
-
Eiddo a lleoedd
-
Cwmnïau a sefydliadau
-
Enwi dwyieithog
DYLUNIO
Dyluniad crefftus
Mae ein tîm creadigol amlddisgybliedig yn dod â brandiau’n fyw gyda dylunio graffeg cofiadwy sy’n sefyll allan ac yn adrodd eich stori.