Datblygu brand, gwefan a deunydd marchnata /
Brand development, website and marketing material
Gŵyl ffotograffiaeth a chyfryngau lens wedi'i threfnu gan Ffotogallery yw Diffusion. Caiff ei chynnal bob dwy flynedd yng Nghaerdydd. Fe wnaethom weithio'n agos gyda'r rhai sy'n gyfrifol am yr ŵyl gan ddatblygu brand a oedd yn adlewyrchu ansawdd ac amrywiaeth yr ŵyl. Cafodd y brand hwn ei ddefnyddio yn holl ddeunydd print a digidol yr ŵyl.
Bu'r prosiect yn llwyddiannus yng Ngwobrau Canmol 2014.
Diffusion is a photography and lens-based media festival held biennially in Cardiff. We worked closely with the festival creators and developed a brand that reflected the quality and diversity of what was on offer. This brand was implemented across all of the festival’s printed and digital material.
The project won a Canmol Award in 2014.